Gwynfynydd Gold Mine
Located in Snowdonia, North Wales
Clogau is a second-generation family business based in Wales. For over 30 years, our growing range has captured the hearts and imaginations of jewellery lovers from far and wide. Every piece we create contains rare Welsh gold.
Clogau jewellery is seen as an heirloom with both a personal and cultural meaning and a permanent tie to Wales – something valuable to pass down through the generations. It is our heritage that defines what we are, and provides the cornerstone for our future – a future we hope will be as successful as our story has been to date.
Gold Recovery
Once the ore was mined, the process of extracting the gold began. Gwynfynydd mills were powered by waterwheel and water turbine. Here the ore was tipped onto screens, fed into stonebreakers and then crushed to powder by stamp mills. The ore pulp was washed over copper plates covered with amalgam and this picked up the gold.
Grinding pans, known as Britten pans, were used to recover visible gold from selected batches of high-grade ore and smelting was also carried out at the mill. Hugh Pugh became a foreman and his diary records that the Britten pan mill operated from Sunday midnight through to Saturday midnight with two men working 12-hour shifts.
Didoli'r Aur
Unwaith yr oedd y mwyn wedi'i gloddio byddid yn dechrau ar y broses o ddidoli'r aur. Câi melinau Gwynfynydd eu gyrru gan olwyn ddŵr a thyrbin dŵr. Yma câi’r mwyn ei arllwys ar sgriniau, ei fwydo i beiriannau torri cerrig a'i falu'n bowdwr yn y felin falu.
Golchid y pwlp mwyn dros blatiau copr wedi'u gorchuddio ag amalgam ac wrth wneud hyn roedd modd didoli'r aur. Defnyddid padelli malu a elwid yn Badelli Britten i godi'r aur gweladwy o ddarnau o fwyn o radd dda oedd wedi'u dethol a gwneid y gwaith mwyndoddi yn y felin hefyd. Ymhen amser daeth Hugh Pugh yn fforman a nododd yn ei ddyddiadur fod melin Badell Britten yn gweithio o ganol nos ar y Sul tan ganol nos y Sadwm canlynol gyda dau ddyn yn gweithio shifftiau deuddeg awr.
Mining Methods
Gwynfynydd was worked from a number of different levels, with access into the mountain by horizontal tunnels (adits). Miners laboured by candlelight. In the early days, shotholes were drilled by hand, using a hammer and steel drill, charged with explosives and blasted. By the end of the century, compressed air drills and other tools were becoming available. Ore extraction (stoping) was carried out both overhand and underhand. In overhand stopes, broken rock accumulated to provide a working platform. Underhand stopes were roofed with timber. The ore was hauled to the surface in wagons on narrow-gauge rails.
The primitive adit mines at work in Wales during the mid-19th Century needed little power, with the exception of the dressing plant. When shaft hoisting was necessary, power was provided by a hand capstan, or a horse whim. Again, by the turn of the century, power was provided by water turbines and steam.
Image: Driving a heading at the turn of the century
Dulliau Mwyngloddio
Gweithiwyd Gwynfynydd o nifer o lefelau gwahanol ac yr oedd modd mynd i mewn i'r mynydd drwy dwneli llorweddol neu geuffyrdd ac yr oedd y mwyngloddwyr yn gweithio yng ngolau cannwyll. Yn y dyddiau cynnar byddai'r tyllau saethu yn cael eu drilio â llaw gan ddefnyddio morthwyl a dril ddur, eu llenwi a ffrwydron a'u tanio. Erbyn diwedd y ganrif roedd yna ddriliau awyr cywasgedig ac offer arall ar gael. Byddid yn tynnu'r mwyn o'r stôb sef yr agoriad tanddaearol oedd wedi'i weithio ar ffurf tebyg i risiau, uwchben ac islaw. Roedd y creigiau a dorrwyd yn gweithredu fel llwyfan i weithio arno yn y stobiau uwchlaw ac yr oedd coed yn cynnal y stobiau islaw. Câi’r mwyn ei gludo i'r wyneb mewn wagenni oedd yn rhedeg ar reiliau culion.
Ychydig iawn o bŵer oedd ei angen ar y mwyngloddiau ceuffyrdd cyntefig oedd yn cael eu gweithio yng Nghymru yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg heblaw am y tŷ trin. Pan oedd angen codi siafftiau roedd y pŵer yn cael ei ddarparu gan gapstan llaw neu wins geffyl. Unwaith eto, erbyn diwedd y ganrif, tyrbinau dŵr a stêm oedd yn cynhyrchu pŵer.
Tyllau saethu yn cael eu drilio a llaw
A Miner's Life
Gold was first discovered at Gwynfynydd in 1863, but no profitable amounts were found until 1887. In the 19th Century, gold ore extraction was a laborious process and a miner's day was long and hard.
A Dolgellau man, Hugh Pugh, began work at Gwynfynydd in 1888 and his diaries provide a fascinating insight into working conditions and mining methods. At this time about 200 workers were employed, many of them boys under 15, and a 10-hour shift was usual. Pugh writes that local shops were stocked with trays of gold quartz for sale to visitors: "There was a gold rush here, miners everywhere..."
Many men lived in barracks at the mine, or lodged in nearby farms, and others walked long distances from home each day. Officials had a separate boarding house. Hugh Pugh walked eight-and-a-half miles to work. He wrote: "We used to meet on the bridge at 3 o'clock with our Wallets, a big homemade loaf in one hand and rations in the other, and start work at 7 o'clock".
A cart and horse went to Dolgellau each day for supplies and once a week, bread and groceries were delivered to Gwynfynydd. Menus seem to have been monotonous, with one man writing home:
'Rabbits young, rabbits old,
Rabbits hot, rabbits cold,
Rabbits tender, rabbits tough,
Thank the Lord, we had enough'
There was little entertainment for the resident miners, apart from "sing-songs" on Friday nights and a concert once a month. One manager opened a reading room and started a Bible class. By 1900 the scale of wages was 3/6d (three shillings and sixpence) for a miner and assayer, 1/6d for a boy and 1/1d for a donkey.
Didoli'r Aur
Darganfuwyd aur am y tro cyntaf yng Ngwynfynydd yn 1863 ond ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw symiau proffidiol hyd 1887. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y gwaith o dynnu'r mwyn aur yn broses lafurus ac roedd diwrnod y mwyngloddiwr yn hir ac yn galed.
Yn 1888 dechreuodd dyn o Ddolgellau o'r enw Hugh Pugh weithio yng Ngwynfynydd ac mae ei ddyddiaduron yn rhoi darlun hynod ddiddorol i ni o'r amodau gwaith a dulliau mwyngloddio. Tua'r adeg hon cyflogid rhyw 200 o weithwyr, llawer ohonynt yn fechgyn dan 15 oed, ac yr oedd shifft o 10 awr yn gyffredin. Mae Pugh yn cyfeirio at y ffaith fod y siopau lleol yn llawn hambyrddau o gwarts aur i'w gwerthu i ymwelwyr: "Roedd yna ruthr am aur yma a mwyngloddwyr ym mhob man ..."
Roedd llawer o'r dynion yn byw mewn barics yn y gwaith aur neu yn lletya ar ffermydd cyfagos ac eraill yn cerdded cryn bellter o'u cartrefi bob dydd. Mae'n debyg fod gan y swyddogion lety ar wahân. Arferai Hugh Pugh gerdded wyth milltir a hanner i'r gwaith. Dyma fel yr ysgrifennodd: "Roeddem yn arfer cyfarfod ar y bont am dri o'r gloch y bore gyda'n bagiau gwaith, torth fawr wedi'u chrasu gartref yn un pen a gweddill y bwyd yn y llall, a dechrau gweithio am saith y bore".
Byddai cert a cheffyl yn mynd i Ddolgellau bob dydd i nol anghenion ac unwaith yr wythnos cal bara a bwydydd eraill eu cludo i Wynfynydd. Mae'n ymddangos mai digon undonog oedd eu prydau bwyd a chafwyd cyfeiriad i'r perwyl hwnnw mewn pennill a gynhwyswyd gan un evr o Sais wrth iddo ysgrifennu at ei deulu:
'Rabbits young and rabbits old,
Rabbits hot, rabbits cold,
Rabbits tender, rabbits tough,
Thank the Lord, we had enough'
Nid oedd yna lawer o adloniant ar gyfer y mwyngloddwyr oedd yn byw ar y safle ar wahân i dipyn o hwyl wrth gydganu ar nosweithiau Gwener a chyngerdd unwaith y mis. Aeth un rheolwr ati i agor ystafell ddarllen a dechrau dosbarth Beiblaidd. Erbyn 1900 yr oedd mwyngloddiwr a dadansoddwr yn derbyn cyflog o dri swllt a chwe cheiniog, bachgen yn cael swllt a chwech a rhoddid swllt a cheiniog ar gyfer asyn.
The Welsh Gold Rush
Gold fever swept the district in the mid-1850s. From outside the county came prospectors, merchants and miners — and numerous cranks and swindlers. Tyn-y-Groes Hotel (then Thornton’s Hotel) became the gathering place for the mining fraternity.
The “Welsh Gold Rush” is generally accepted to have started in 1860, as this marked the beginning of a decade when mines and mining companies sprang up throughout the Dolgellau Gold Belt.
The gold field encompassed an area of about 20 square miles and around 20 mines were operational at the peak of production. Most of these, however, unlike Gwynfynydd, were small operations run by a few men.
By 1865, the first phase of the gold rush was over and the period of speculation and discovery ended. In the following 20 years, gold mining was sporadic and unprofitable, until 1887 when new discoveries were made at Gwynfynydd. A new, better-organised, better-equipped and better-financed gold rush followed, with up to 30 mines operational, although, again, many were small.
Esblygiad Y Belt Aur
Yng nghanol pumdegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd yr ardal yn ferw gan dwymyn yr aur. Heidiodd pobl o'r tu allan i'r sir i chwilio am aur ac yn eu sgîl daeth mwyngloddwyr a masnachwyr ac amryw o gymeriadau rhyfedd a thwyllwyr. Byddent yn cyfarfod yng Ngwesty Ty'n-y-Groes neu Thornton's Hotel fel ag yr oedd yr adeg honno.
Yn gyffredinol 1860 yw'r flwyddyn sy'n cael ei chydnabod fel dyddiad y 'Rhuthr Cymreig am Aur' gan fod y flwyddyn honno yn ddechrau degawd pan welwyd mwyngloddiau a chwmnïau mwyngloddio yn cael eu sefydlu ledled belt aur Dolgellau.
Yr oedd y maes aur yn cwmpasu ardal o ryw ugain milltir ac yr oedd oddeutu ugain o fwyngloddiau aur ar waith pan oedd cyffro'r aur yn ei anterth. Yn wahanol i Wynfynydd, yr oedd y rhan fwyaf o'r rhain yn weithfeydd bach yn cael eu gweithio gan nifer fechan o ddynion.
Erbyn 1865 roedd y rhuthr cyntaf am aur wedi darfod a daeth y cyfnod o archwilio a darganfod i ben. Yn ystod yr ugain mlynedd wedi hynny achlysurol ac amhroffidiol fu'r cloddio am aur tan 1887 pan wnaed darganfyddiadau newydd yng Ngwynfynydd. Gwelwyd cyfnod arall o ruthro am yr aur ond y tro hwn roedd wedi'i drefnu a'i ariannu yn well a defnyddid gwell offer hefyd. Yr oedd hyd at 30 o fwyngloddiau ar waith er mai rhai bach oedd nifer o'r rhain unwaith eto.
Ancient Sediments
The rocks at Gwynfynydd Gold Mine are mostly of the Cambrian geological age, around 550 million years old. They are mainly composed of ancient sediments laid down in a large sea basin, which stretched from Shropshire to beyond Anglesey. Around 400 million years ago, there was a period of mountain building caused by intense volcanic activity throughout the whole of Snowdonia. Large layers of ash were laid down and the sediments were shattered, folded and faulted.
Gwaddodion Hynafol
Mae’r creigiau yng Ngwaith Aur Gwynfynydd yn perthyn i’r cyfnod daearegol Cambriaidd yn bennaf ac maent oddeutu 550 miliwn o flynyddoedd oed. Maent yn cynnwys gwaddodion hynafol a osodwyd mewn basn môr mawr a oedd yn ymestyn o Swydd Amwythig at Sir Fôn a thu hwnt.
Tua 400 o filiynau o flynyddoedd yn ol cafwyd cyfnod o ffurfio mynyddoedd yn sgîl gweithgaredd folcanig sylweddol ledled Eryri. Ffurfiwyd haenau mawr o ludw a chafodd y gwaddodion eu dryllio, eu plygu a’u ffawtio.
Gold Deposits
Rising volcanic rock was forced under pressure into the faults and cracks in the sediment. This included quartz fluids, some of which carried gold and other elements. A mudstone sediment, known as the Clogau shale, which is rich in iron and sulphur, provided the ideal chemical environment to cause the gold to be deposited. The gold at Gwynfynydd is mainly found in quartz veins within this shale. Some deposits have been found in the Vigra Flags, the layer above the Clogau shale, but none in the Gamlan grits, the older layer below.
In most other areas of the Dolgellau gold belt, the shales are shallow and have been worn away by erosion which means the gold rapidly disappears with depth. At Gwynfynydd, however, there are large, unworked quartz veins deep within the mountain and it is estimated that there are sufficient reserves for a further 30 years' production.
Dyddodion Aur
Dan bwysedd gwthiwyd y creigiau folcanig oedd yn codi i’r ffawtiau ac i graciau yn y dyddodion. Yr oeddent yn cynnwys hylifau cwarts ac roedd aur ac elfennau eraill yn rhai ohonynt. Yr oedd gwaddod carreg laid a adwaenir fel siâl y Clogau ac sy’n llawn haearn a sylffwr yn darparu’r amgylchedd cemegol delfrydol i ben i i’r aur gael ei ddyddodi ac mae aur Gwynfynydd i’w ganfod yn bennaf yn y gwythiennau cwarts o fewn y slat hwn. Darganfuwyd rhai dyddodion yn Fflagiau Vigra, yr haen uwchlaw siâl y Clogau ond ni welwyd dim yng ngrutiau Camlan, yr haen hŷn islaw.
Mae’r sialau yn fas yn y rhannau eraill o felt aur Dolgellau ac wedi’u herydu a golyga hynny fod yr aur yn diflannu yn fuan gyda dyfnder. Er hynny mae yna, yn ddwfn yn y mynyddoedd yng Ngwynfynydd, wythiennau cwarts mawr heb eu gweithio ac amcangyfrifir fod yna ddigon o gyflenwadau wrth gefn yno ar gyfer deng mlynedd ar hugain arall o gynhyrchu.
William Pritchard Morgan
Gwynfynydd became one of the most important mines of the Meirionnydd gold field and, together with the Clogau mine, contributed some 95% of the total output.
A discovery of gold at Gwynfynydd in 1863 led to early exploration and production, but the mine had a chequered early history, closing several times and reopening after changes in ownership.
The individual who enjoyed most success at Gwynfynydd was William Pritchard Morgan, the “Welsh Gold King”, who is reputed to have made two fortunes at the mine.
In 1887, Pritchard Morgan discovered a major shoot in the Chidlaw Lode, one of several mineral-bearing veins within the mine. Gold ore is considered rich if it contains one ounce in a ton or rock and in 1888, at the peak of production, 8,745 oz of gold was extracted from 3,844 tons of rock in the Chidlaw Lode – an average of 2.27 oz of gold per ton. Pritchard Morgan later said that in one fortnight he recovered two stone more than his own weight in gold.
Morgan subsequently became embroiled with the Crown Estate Commissioners over royalty payments, but in 1894 he discovered another major ore shoot. This yielded 10,000 ounces over a two-year period.
Morgan sold the mine in 1900, but bought it back in 1913. He operated the mine with limited success from 1914 to 1916, when he finally closed the mine after failing to find a further bonanza.
At the present day price of Welsh gold, Gwynfynydd’s total gold production between 1863 and 1916 would be worth around £20 million.
Aur Breninol
Daeth Gwynfynydd yn un o fwyngloddiau pwysicaf maes aur Meirionnydd ac, ynghyd a gwaith aur Cymru, cyfrannodd rhyw 95% o gyfanswm y cynnyrch. Gyda darganfod aur yng Ngwynfynydd yn 1863 aed ati yn ddi-oed I chwilio am aur a gweithio yno ond cyfnewidiol oedd hanes cynnar y gwaith a chafodd ei agor a’i gau nifer o weithiau wrth iddo newid dwylo.
Yr unigolyn a fu’n fwyaf llwyddiannus yng Ngwynfynydd oedd William Pritchard Morgan, “Brenin Aur Cymru”, dywedir iddo ennill dwy ffortiwn yn y gwaith. Yn 1887 darganfu Pritchard Morgan wythïen sylweddol yn y man a adwaenid wrth yr enw “Childlaw Lode”, un o nifer o wythienna oedd yn cynnwys mwynau yn y gwaith. Ystyrir mwyn aur yn un da os yw’n cynnwys un owns mewn tunnel o graig ac yn 1888, pan oedd y cynhyrchu yn ei anterth, echdynnwyd 8,745 owns o aur o 3,844 tunnell o graig yng ngwythïen Chidlaw – cyfartaledd o 2.27 owns o aur y dunnell. Dywedodd Pritchard Morgan iddo mewn un pythefnos godi dwy stony n fwy na’i bwysaud ei hun mewn aur.
Wedi hynny cafodd Morgan drafferthion gyda Chomisiynwyr Ystad y Goron ynghylch breindaliadau ond yn 1894 darganfu wythïen fawr arall. Dros gyfnod o ddwy flynedd cynhyrchwyd 10,000 owns o aur. Yn 1900 gwerthodd Morgan y gwaith ond fe’i prynodd yn ôl yn 1913. Cafodd lwyddiant ysbeidiol ond bu’n rhaid iddo gau’r gwaith yn 1916 ar ôl methu â dod o hyd i aura yr raddfa fawr.
Yn ôl pris aur Cymru heddiw fe fyddai cyfanswm yr aur a gloddiwyd yng Ngwynfynydd rhwng 1867 a 1916 werth rhyw £20 miliwn.
Mining Methods
Gold was first found in Gwynfynydd Gold Mine in 1863, but it was not until 1887 that the Welsh Gold King, William Pritchard Morgan, found the first major bonanza. The picture shows the null that he erected on the site in 1888.
The mine is located a little further up the valley, but this location was chosen for the mill because of the ready availability of water power. The waterwheel can clearly be seen in operation in the picture. The flow of water would often be insufficient in dry periods and the power from the wheel had to be supplemented by a steam engine.
In 1893, the waterwheel was replaced by a turbine which drew its water from high up the river Cain.
The ore was processed by 40 stamp mills, sieved and passed over tables with mercury. The resultant amalgam of mercury and gold was collected and separated. Frue Vanner and Wilfley tables were also used to concentrate the minerals in the tailings.
For the visible gold there was a Britten Pan mill driven by waterwheel which operated non-stop for six days a week with two 12-hour shifts.
The mine closed in 1916 and the mill was scrapped the following year.
In the 1930s, there was an attempt to reopen the mine and the mill was rebuilt, but it burned down in 1935 before it became fully operational. The mine is now producing gold again, but for security and environmental reasons the mill is located underground.
Gwaith Aur Gwynfynydd Safile’r Felin
Daethpwyd o hyd i aur gyntat yng Ngwaith Aur Gwynfynydd yn 1863 ond yn 1887 y cafodd Brenin Aur Cymru, William Pritchard Morgan, y bonanza mawr cyntaf. Mae’r llun yn dangos y felin a gododd ar y safle yn 1888.
Lleolir y gwaith ychydig ymhellach i fyny’r cwm ond dewiswyd y Ileoliad hwn ar gyfer y felin gan lod digonedd o ynni dŵr wrth law. Gellir gweld yr olwyn ddŵr yn gweithio yn y llun. Byddai Ilif y dŵr yn aml yn annigonol mewn cyfnodau sych a byddai’n rhaid defnyddio peiriant stêm yn ogystal â’r ynni o’r olwyn.
Yn 1893 cymerwyd lle’r olwyn ddŵr gan dwrbin oedd yn tynnu dŵr o ben ucha’r afon Cain.
Byddai’r mwyn yn cael ei brosesu gan 40 melin falu, ei hidlo a’i drochi mewn arian byw ar fyrddau arbennig. Yna câi’r cymysgedd o arian byw ac aur eu gwahanu. Hefyd defnyddiwyd byrddau Frue Vanner a Wilfey i grynhoi’r mwyn o’r sbarion. Ar gyfer yr aur gweladwy roedd melin Badell Britten yn cael ei gyrru gan olwyn ddŵr. Byddai’n cael ei gweithio’n ddidor am chwe niwrnod yr wythnos gan ddau shifft deuddeg awr.
Caeodd y gwaith yn 1916 a chaewyd y felin y flwyddyn ganlynol. Yn y 1930au bu ymrech i ailagor y gwaith ac ail-adeiladwyd y felin, ond fe’i dinistrwyd mewn tân yn 1935 cyn ei rhoi ar waith yu llawn.
Mae’r gwaith yn cynhyrchu aur unwaith eto nawr, ond er budd yr amgylchedd ac am resymau diogelwch mae’r felin wedi ei lleoli o dan y ddaear.
A Royal Relationship
Traditionally, gold produced in Wales has been used for wedding rings and other items by the Royal Family.
An ingot of Welsh gold presented to Queen Victoria had been exhausted by the end of the 1960s and so, in 1986, a kilogram ingot of 99% pure Gwynfynydd gold was presented to Queen Elizabeth II to commemorate her 60th birthday. At the same time a smaller ingot was presented to the Duke of York.
This will ensure that the tradition of Welsh gold wedding rings for the Royal Family can continue well into the future.
Gwaith Aur Gwynfynydd Safile’r Felin
Daethpwyd o hyd i aur gyntat yng Ngwaith Aur Gwynfynydd yn 1863 ond yn 1887 y cafodd Brenin Aur Cymru, William Pritchard Morgan, y bonanza mawr cyntaf. Mae’r llun yn dangos y felin a gododd ar y safle yn 1888.
Lleolir y gwaith ychydig ymhellach i fyny’r cwm ond dewiswyd y Ileoliad hwn ar gyfer y felin gan lod digonedd o ynni dŵr wrth law. Gellir gweld yr olwyn ddŵr yn gweithio yn y llun. Byddai Ilif y dŵr yn aml yn annigonol mewn cyfnodau sych a byddai’n rhaid defnyddio peiriant stêm yn ogystal â’r ynni o’r olwyn.
Yn 1893 cymerwyd lle’r olwyn ddŵr gan dwrbin oedd yn tynnu dŵr o ben ucha’r afon Cain.
Byddai’r mwyn yn cael ei brosesu gan 40 melin falu, ei hidlo a’i drochi mewn arian byw ar fyrddau arbennig. Yna câi’r cymysgedd o arian byw ac aur eu gwahanu. Hefyd defnyddiwyd byrddau Frue Vanner a Wilfey i grynhoi’r mwyn o’r sbarion. Ar gyfer yr aur gweladwy roedd melin Badell Britten yn cael ei gyrru gan olwyn ddŵr. Byddai’n cael ei gweithio’n ddidor am chwe niwrnod yr wythnos gan ddau shifft deuddeg awr.
Caeodd y gwaith yn 1916 a chaewyd y felin y flwyddyn ganlynol. Yn y 1930au bu ymrech i ailagor y gwaith ac ail-adeiladwyd y felin, ond fe’i dinistrwyd mewn tân yn 1935 cyn ei rhoi ar waith yu llawn.
Mae’r gwaith yn cynhyrchu aur unwaith eto nawr, ond er budd yr amgylchedd ac am resymau diogelwch mae’r felin wedi ei lleoli o dan y ddaear.
Gold Mining Techniques
The same basic mining techniques were used in 1993 as they were in the last century, although they have been much improved by the development of better explosives and modern machinery to work and handle the rock.
The mine is operated as a small, high-grade gold mine working the highly profitable Chidlaw Lode, the lode which made Pritchard Morgan's personal fortune twice over. The annual production target was 5,000 tons of gold-bearing ore, produced by a team of six skilled miners.
The air drills have various different forms. Here you can see examples of the Holman 303 rock drill as:
• A sinker, the hand drill version, suitable for shallow benching and sinking duties.
• A drifter, the leg drill version, purpose-built for tunnelling and general production and development drilling underground.
• A stopper, designed for overhead working. It has a single, telescopic in-line leg.
Cloddio Am Aur Yng Ngwynfynydd yn y 1990au
Mae’r un technegau mwyngloddio sylfaenol yn cael eu defnyddion heddiw (1993) fel ag yn y ganrif ddiwethaf ere u bod wedi’u gwella’n sylweddol gyda datblygu gwell ffrwydron a pheiriannau modern i weithio ac I drafod y graig.
Mae’r gwaith yn cael ei weithio fel mwynglawdd aur bach o ansawdd uchel ac yn canolbwyntio ar y wythïen Chidlaw hynod broffidiol. Dyma lle gwnaeth Pritchard Morgan ei ffortiwn ddwywaith. Y targed cynhyrchu blynyddol yw 5,000 tunnell o fwyn sy’n cynnwys aur ac mae’n cael ei gloddio gan dîm o chew mwyngloddiwr medrus.
Mae’r driliau awyr a ddefnyddir y dyddiau hyn ar wahanol ffurfiau. Yma gallwch weld enghreifftiau o ddril craig Holman 303 fel:
• Y sincar, y fersiwn drill law sy’n addas ar gyfer gwaith silffio a sincio bas
• Y drifftar, y fersiwn dril coes, wedi’i llunio’n arbennig ar gyfer twnelu a drilio datblygu a chynhyrchu cyffredinol dan ddaear
• Y stobar, wedi’i chynllunio ar gyfer gweithio uwchben, mae ganddi goes unigol delegopig mewn-lein.